Pe bai ’na Gwpan y Byd am ffurfio pwyllgorau neu gomisiynau, mae’n siŵr y bydde Cymru ymhlith y ffefrynnau.

Fe gwlad, ry’n ni fel plumber neu adeiladwr yn edrych ar broblem weddol ddifrifol i roi dyfynbris ac yn ochneidio: “Ooooff, I couldn’t tell you, you’ll need a Commission for that…”

Ma’ dowt ’da fi bo’ pennawd Cymreicach wedi bod erio’d na’r un ar golwg360 yr wythnos hon – “Comisiwn newydd i ystyried dyfodol Cyfansoddiadol Cymru”.