‘Dylsa ni gael enw.’

Ochneidiodd y criw wrth dynhau’r creia ar eu bwtshas pêl-droed.

‘Da ni’m yn dîm go-iawn sna sgynna ni enw!’ mynnodd Oli wedyn.

‘Da ni ddim yn dîm go-iawn na dan,’ dywedodd Cadi’n fflat. ‘Mond practisho da ni.’