Fel rheol, mi fydd gwleidyddion yn cael eu cyhuddo o fethu â meddwl am y tymor hir, o beidio ag edrych y tu hwnt i’r etholiad nesa’.

Lle mae angen cynlluniau tymor hir, er enghraifft efo’r Gwasanaeth Iechyd neu wasanaethau gofal, mae’n llawer haws taflu ychydig o arian ar y funud i daclo’r symptomau.