Yr artist Eleri Mills sydd wedi ennill Gwobr Lluniadu Kyffin Williams, sef cystadleuaeth sy’n cael ei chynnal bob tair blynedd er cof am yr artist enwog.

Ar ôl cipio’r Wobr Agored a £3,000 am ei llun inc ‘Yn y Dyffryn – Tuag at y Bont’, bu Eleri Mills yn sôn am yr help gafodd hi gan Kyffin yn y 1990au.

“Cefais wahoddiad i’w gartref, Pwllfanogl, ar sawl achlysur ac rydw i’n trysori’r llythyrau a dderbyniais ganddo. Roedd Kyffin mor gefnogol o fy ngwaith.”