Wel och a gwae – mae’r bad-boys of rock, y Rolling Stones, wedi datgan nad ydynt am ganu ‘Brown Sugar’ o hyn ymlaen.

Mae’r gân yn cynnwys geiriau sy’n cyfeirio at gam-drin caethweision, cyffuriau, sadistiaeth a mwy o bynciau tabŵ. Delweddau go erchyll, a dweud y gwir.

Meddai Mick Jagger yn 1995: “God knows what I’m on about in that song. It’s such a mishmash. All the nasty subjects in one go… I never would write that song now.”