Rhaid i fi gyfadde’, dw i’n sgwennu’r golofn hon er mwyn mitcho bore ’ma.

Prin 48 awr sydd ar ôl gen i tan y bydd rhaid i fi droi ’nhraethawd hir i mewn – rhyw fil a hanner o eiriau allan o’r ugain mil sydd ar ôl, ond mae’n nhw’n swil iawn yn ymddangos. Felly, dyma gymryd seibiant o sgwennu i, ym, sgwennu am sgwennu.