Roedd dydd Sul diwethaf yn Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, â’r nod cyffredinol o frwydro yn erbyn y stigma sy’n dal i fodoli ynghylch anawsterau iechyd meddwl.

Ac aeth â fi yn bell ’nôl i fy mhlentyndod.

Ryw naw mlwydd oed oeddwn i, neu ddeg efallai. Dim hŷn, yn sicr, achos dw i’n cofio mai yn yr ysgol gynradd yr oeddwn i.

Ac er nad ydw i’n cofio fy union oed, dw i’n cofio’r achlysur yn gwbl, gwbl glir. Rhywun agos iawn ata i yn fy nghyhuddo o fod yn miserable little bugger.