Mae “cyfnod wedi dod i ben” gyda marwolaeth Gerallt Llywelyn, un o ffotograffwyr amlycaf diwylliant poblogaidd Cymraeg ers y 1970au…
Bu’r ffotograffydd Gerallt Llywelyn, a gafodd ei fagu yn Sir y Fflint ond a oedd wedi ymgartrefu yn Nyffryn Nantlle, yn cofnodi cynnwrf y byd ffilm, teledu a’r byd roc Cymraeg am ddegawdau.