Bydd ffotograffwyr enwog iawn yn Aberystwyth dros y penwythnos, ar gyfer gŵyl ffotograffiaeth ryngwladol …
Bwriad Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol The EYE ers y dechrau’n deg oedd denu rhai o ffotograffwyr gorau’r byd i Geredigion i rannu eu profiadau, yn ôl y sylfaenydd.
Bydd yr ŵyl, sydd hefyd yn cynnwys arddangosfa luniau a gweithdai, yn cael ei chynnal bob dwy flynedd yng Nghanolfan y Celfyddydau. Fe fydd hi’n digwydd eleni am y pumed tro, ar ôl cael ei gohirio’r llynedd.
“Reit o’r cychwyn cyntaf mi wnes i addewid i y bydden ni ddim ond yn dod â’r gorau yn y byd i Gymru,” meddai Glenn Edwards, sydd hefyd yn ffotograffydd newyddiadurol ei hun.
“Dw i’n credu ein bod wedi llwyddo o ran hynny dros y blynyddoedd. Ein bwriad yw cadw at y safon yn gyson – mae hynny’n wirioneddol bwysig i’r ŵyl ac i ffotograffiaeth Gymreig yn gyffredinol, gan ein bod ni weithiau yn gallu bod ychydig yn fewnblyg. Mae dod â’r bobol hyn i Gymru ac ysbrydoli ffotograffwyr newydd o Gymru yn bwysig.”
Yr uchafbwyntiau eleni fydd sgyrsiau gan ffotograffwyr rhyngwladol sy’n adnabyddus tu hwnt yn eu maes, fel Lalage Snow, Vanley Burke, Laura El-Tantawy, Nicola Muirhead, Dafydd Jones, a Mary Turner.
Cymro yw Dafydd Jones, sy’n hanu o Gaerfyrddin, a symudodd i fyw i Efrog Newydd i weithio i’r cylchgrawn Vanity Fair. Ef oedd un o’r cyntaf i dynnu lluniau’r partïon society yno, a hynny ar ddechrau’r obsesiwn cyfryngol gyda diwylliant selebriti. Mae wedi gweithio i Tatler a The New York Observer a’i luniau wedi bod yn y rhan fwyaf o bapurau breision.
“Do’n i erioed eisiau thema benodol yn rhedeg drwy’r ŵyl – ond eisiau iddi fod yn eclectig ac yn wahanol,” meddai Glenn Edwards. “Dyw e ddim yn mynd yn ddiflas wedyn. Dw i wedi gwneud pwynt o ddod â gwahanol siaradwyr i mewn i sgwrsio am wahanol bynciau, a’r gwahanol ffyrdd y maen nhw’n gweithio, ac o wahanol gyfnodau.
“Mae gyda ni Dafydd Jones a gwaith yn y 1960au a’r 1970au, fel Vanley Burke, yna mae gyda ni rai fel Nicola Muirhead, yn perthyn lawer mwy i’r brîd newydd o ffotograffwyr sydd â steil fwy cyfoes yn lle traddodiadol, ond sy’n dal yn waith dogfennol yn bendant.”
Hefyd yn sgwrsio yn yr ŵyl mae Sophie Batterbury, Pennaeth Lluniau papurau’r Independent. Fe fydd yna hefyd arddangosfa o waith y ffotograffydd newyddiadurol John Downing, enillydd British Press Photographer of the Year saith gwaith, ynghyd â lluniau gan fyfyrwyr Adran Ffotograffiaeth Coleg Celf Caerfyrddin, a Liron Gertsman, ffotograffydd byd natur ifanc o Ganada. Bydd yr holl ddigwyddiadau yn cael eu darlledu’n fyw ar lein gan Culture Colony.
Cofnod gwir y gymdogaeth ddu
Y ‘Godfather of Black British Photography’ – dyna fel y mae rhai yn disgrifio’r ffotograffydd Vanley Burke, y mae ei waith yn cael ei ystyried fel y cofnod gorau drwy ffotograffau o bobol Affricanaidd-Caribïaidd yng ngwledydd Prydain ers y rhyfel.
Ar ei ben-blwydd yn ddeg oed, pan oedd yn dal i fyw yn Jamaica, fe gafodd gamera Kodak Brownie 127. Pan symudodd at ei rieni ym Mirmingham yn 14 oed, bu’n rhaid iddo ddewis gadael naill ai’r camera neu ei set radio. Dewisodd adael ei radio i’w fodryb. “Roedd y camera yn fy niddori i fwy,” meddai wrth Golwg dros y ffôn, wrth sgwrsio am ei ymweliad â Gŵyl EYE yn Aberystwyth dros y penwythnos.
Byth ers iddo ddod i Loegr, bu’n tynnu lluniau’r cymunedau Affricanaidd-Caribïaidd, a ralïau gwrth-hiliaeth yn ei ddinas fabwysiedig.
“Mi wnes i ystyried ei fod yn gyfrifoldeb arna i i ddogfennu’r bywydau a’r profiad wrth i ni ymdrechu i sefydlu ein hunain mewn gwlad wahanol, mewn lle dieithr,” meddai Vanley Burke.
“Doedd yr hyn roeddech chi’n ei weld yn y wasg ddim yn adlewyrchu ein profiadau ni go-iawn. Dyma fi’n meddwl – wel, os yw hanes i gael ei sgrifennu, yna rhaid i ni gymryd rhan wrth sgrifennu ein hanes ein hunain. I mi, mae’n bwysig cymryd ffotograffau sy’n ymwneud â’n hamser yma.”
Byddai yn tynnu llawer o luniau protest, fel yn y rali African Liberation Day yn 1977. “Er mwyn dogfennu’r hyn a oedd yn digwydd, roedd angen i mi glywed a deall yr hyn a oedd yn digwydd, ac weithiau gredu’r hyn a oedd yn digwydd,” meddai. “Fy mhrif waith i oedd dogfennu’r profiad hwnnw a welais yn datblygu.”
Er mwyn perswadio pobol yn y dyddiau cynnar i adael iddo dynnu eu llun, byddai’n mynd â bocs o’i ffotograffau gydag e. “Doedden nhw ddim wedi arfer,” meddai. “Doedden nhw ddim yn siŵr a oeddwn i o’r gwasanaethau cymdeithasol neu’r heddlu.
“Ar adegau pan nad oedd gen i luniau, mi fyddwn i’n ceisio esbonio ar lafar, ac weithiau roeddwn i’n llwyddo.”
Er ei fod wastad wedi teimlo ei fod yn gwneud gwaith pwysig, cafodd anogaeth swyddogol ar ôl iddo ennill grant gan gwmni camera Kodak.
“Roedd hynny’n arwydd fy mod i’n symud i’r cyfeiriad cywir,” meddai. “Fel artistiaid, mae angen y gydnabyddiaeth honno arnoch chi ar rai adegau, yn enwedig yn y dyddiau hynny, rydych chi’n gweithio ar eich pen eich hun yn llwyr.”
Un o’i luniau mwyaf adnabyddus yw’r un o’r bachgen ifanc ar ei feic ag arno faner Jac yr Undeb. “Nid dim ond y Cymry sydd â phroblem gyda’r faner,” meddai Vanley Burke. “Mae gan bobol eraill broblem â’r faner, a phroblem â’u perthynas â hi.”
Mae wedi dychwelyd i’w famwlad yn Jamaica ddwywaith. Fe dreuliodd chwe wythnos yn ne Affrica yn 1990, ychydig ar ôl i Nelson Mandela gael ei ryddhau. “Yn amlwg, roeddwn i’n falch fel pawb arall bod cyfiawnder wedi ei wneud o’r diwedd,” meddai, “a bod pobol yn gallu dechrau ail-godi sylfeini’r wlad er lles y dyfodol.”
Ei ddenu i Tiger Bay
Pa bethau yr hoffai Vanley Burke eu dysgu i ffotograffwyr iau yn Aberystwyth?
“Fyddwn i ddim yn meiddio meddwl y gallwn i ddysgu unrhyw beth i unrhyw un,” meddai. “Dw i’n dal i ddysgu fy hun.
“Fe hoffwn efallai ddod i gyswllt gyda rhai pobol sy’n gwneud gwaith tebyg yna, ac efallai y gallwn ni gydweithio rhywfaint yn y dyfodol. Fe liciwn i fod wedi mynd i Tiger Bay yn y 1970au. Dw i wedi clywed cymaint am y lle. Byddai’n dda dal i fyny â rhai o fy nghefndryd yng Nghymru.”
Pam Tiger Bay? “Roedd gen i gryn ddiddordeb, oherwydd roeddwn i’n dogfennu grŵp newydd o bobol a oedd yn dod i mewn o dan faner y Windrush… Byddwn i eisiau cael cip ar eu bywydau, i weld a allen ni rywfodd dynnu cymhariaeth – rhwng y rheiny sydd wedi bod yma gyhyd a’r newydd-ddyfodiaid.”
Mae yn ymwybodol iawn o hanes Tiger Bay, a’r modd y bu’n rhaid i rai trigolion symud i ardaloedd eraill o’r ddinas er mwyn i ddatblygwyr greu’r ardal a adwaenir heddiw fel Bae Caerdydd.
“Gallwch chi gael gwared â rhan enfawr o hanes unigolion mewn amrantiad,” meddai. “Dw i ddim yn credu y dylai cymdeithas geisio gwyngalchu’r lleoedd hyn; mae ein hanes yn bwysig i bawb.”
- Gŵyl The EYE, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, 16 a 17 Hydref (manylion ar www.theeyefestival.com)