Druan o Gymru fach.

Unwaith eto ymosodwyd ar statws a dylanwad ein gwlad wrth i ni orfod ildio wyth o’n Haelodau Seneddol, diolch i waith Comisiwn Ffiniau i Gymru. Y nod yw sicrhau nifer tebyg o etholwyr ym mhob etholaeth ar draws Prydain. Felly ffarwel i Geredigion – a helo i Geredigion-Preseli.

Yn y cyfamser, fe welwn greu ddeg o etholaethau newydd yn Lloegr (sydd wedi gweld twf sylweddol yn ei phoblogaeth diolch i’r miloedd sy’n mewnfudo i Brydain yn flynyddol).