Mae’n anodd credu ond, y funud yma, mae hi’n ymddangos y gallai’r gaea’ nesa’ yma fod yr un mor anodd – os nad gwaeth – na’r un aeth heibio.

Wrth i’n llywodraethau ni gamblo y bydd penllanw pedwaredd ton y pandemig heibio cyn diwedd yr hydref, mae yna broblemau eraill yn pentyrru.

Yr un fwya’ amlwg yn y tymor byr ydi’r diffyg nwy sydd, oherwydd cymhlethdod rhyfedd ein bywydau masnachol ni, yn effeithio ar ein gallu ni i gynaeafu cig a phacio llysiau.