Mae’n hen hanes fod y sector rheilffyrdd yng Nghymru wedi gweld dyddiau gwell.

Ond yn ddiweddar, mae’r drafodaeth dros wella cyflwr ein trenau wedi magu tipyn o stêm gyda sôn am greu Bwrdd Rheilffyrdd i Gymru.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi derbyn rhai o gynigion y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan er mwyn gosod y gwasanaethau trenau nôl ar y cledrau.

Bydd y bwrdd newydd yn rhoi platfform i drafod seilwaith a buddsoddiad yng ngwasanaethau rheilffyrdd ar draws Cymru.