Dydy ‘gŵyl’ heb fod yn air sy’n cael ei ddefnyddio llawer dros y deunaw mis diwethaf.

Ond dros y penwythnos cynhaliwyd mwy nag 20 gŵyl leol newydd sbon, wrth i rai o gymunedau cynllun Bro360 ddod â phobol ynghyd unwaith eto.

Normalrwydd yn dod yn ei ôl

Un o’r llefydd mwyaf byrlymus yn ystod y penwythnos oedd y Felinheli, sy’n enwog am gynnal digwyddiad llwyddiannus Gŵyl Felin bob blwyddyn.

Roedd yr ŵyl fro hefyd yn ddiwrnod o weithgareddau i’r teulu cyfan, gyda sesiynau gan y bardd Osian Owen, yr awdures a’r actores Leisa Mererid, a’r ffotograffydd Kristina Banholzer, ynghyd â stondinau gan fusnesau lleol ac adloniant gyda’r hwyr.

Daeth llu o drigolion lleol i fwynhau ar y Foryd ac, yn ôl Osian Owen, er nad oedd hwn yn ddigwyddiad mor uchelgeisiol â Gŵyl Felin arferol y dyddiau cyn-Covid, roedd hi “mor braf cael blas bach o hynny, a theimlo bod normalrwydd yn dod yn ei ôl yn ara bach”.

I’r trenydd Anwen Roberts, roedd y digwyddiad yn help i ddod trwy gyfnod anodd wedi colli ei mam – roedd meddwl am weld pobol yn cymdeithasu eto’n ddigon o sbardun iddi. “Wnes i golli fy ffordd ychydig bach,” meddai, “felly mae trefnu hyn wedi rhoi rhyw bwrpas i fi.”

Mae’r blog gan Brengain Glyn ar BangorFelin360 yn dod â naws y cyfan yn fyw.

Blas o’r Bröydd

Gŵyl Bro yn tanio’r dychymyg

Cerddoriaeth, cymdogaeth a’r economi leol yn elwa

Gŵyl arall sy’n adlais o ŵyl fwy oedd Tregaroc Bach Bach. Gyda gŵyl flynyddol Tregaroc, mae pobol Tregaron wedi hen arfer â joio ac mae’r lluniau ar Caron360 yn dangos bod y dre’n rocio unwaith eto.

Roedd y bandiau’n cyfaddef cymaint o gyffro yr oedden nhw’n ei deimlo am eu gig byw cyntaf ers deunaw mis, a phobol Tregaron yn gwenu o weld bar bach y Talbot yn ailagor am y tro cyntaf.

Blog byw o Tregaroc Bach Bach

Fflur Lawlor

Dilynwch y diweddara o Dregaron, a chyfrannwch at y blog os chi ma!

Syniadau newydd

Mewn ambell i ardal, fe sbardunodd Gŵyl Bro weithgaredd cwbl newydd, ac un o’r rhain oedd prynhawn sgwrsio a syniadau yn Gerlan, Dyffryn Ogwen.

Mae gan y gymuned lyfrgell ffeirio planhigion a hadau, ac mae yna fwriad i ddatblygu’r safle a llunio murlun lliwgar ar y llecyn. Fe ddaeth criw da ynghyd a’r syniadau’n llifo, felly, fel mae Daniela Schlick yn ei ddweud ar Ogwen360: “Watsh ddis spês!”

Yr artist ifanc Dafydd Hedd a’i gitâr oedd yr adloniant yn Gerlan. Ond doedd Dafydd ddim am setlo ar fod yn rhan o un digwyddiad. Aeth yr hogyn 18 oed ati i drefnu ei gig ei hun y noson honno yng nghlwb Rygbi Bethesda, a chreu cyfle arbennig i glywed y to newydd o artistiaid ifanc o Arfon yn perfformio. Roedd sŵn Yazzy, Adam Boggs, Dafydd Hedd, Orinj a CAI i’w glywed yn glir yn Nyffryn Ogwen nos Sadwrn.

Gŵyl Bro – Llyfrgell Planhigion Gerlan

Daniela Schlick

Dathlu dod at ein gilydd eto a chreu lle da yn ein cymuned

Blas lleol

Roedd yna flas lleol iawn i lawer o’r gweithgareddau ac un trefnydd sy’n falch o lwyddiant y digwyddiad yw Caryl Jones o Bonterwyd. Ar ôl cynnal un cyfarfod i feddwl am syniadau, aeth criw bach ati i drefnu Picnic Pentre gydag adloniant bnawn Sul gyda’r band lleol, y Smoking Guns.

Un o’r sylwadau a welwyd ar BroAber360 oedd: “Band gwych yn siwtio bach o bawb. Pryd mae’r digwyddiad nesaf?” Dim ond y dechrau yw hyn i Bonterwyd, mae’n debyg…

Cynhaliwyd llond dwrn o deithiau cerdded a helfeydd trysor o gwmpas Ceredigion – mae’n amlwg bod y Cardis yn hoff o fynd ar drywydd pethau gwerthfawr!

Un o’r rhain oedd digwyddiad gan bapur bro Y Ddolen. Achlysur go nodedig, gan mai dyma’r tro cyntaf i olygyddion y papur bro gwrdd ers 2019!

Ac mae’n amlwg bod digon o dynnu coes i’w gael wrth gwblhau posau ar y daith, gan mai un o’r sylwadau gafodd ei glywed oedd: “Chi’n galw hwnna’n llyn? – ma’ pot holes mwy yn Nhrisant!”

Lock in mewn tafarn!

Un o gyrchoedd cyffuriau mwya’ gwledydd Prydain oedd sail digwyddiad yn Llanddewi Brefi yn ardal Caron360.

Yn nhafarn y New Inn, aeth criw ati i sefydlu Escape Room newydd sbon ar thema Operation Julie, yr ymgyrch gan yr heddlu yn yr 1970au i darfu ar rwydwaith cyffuriau anferth.

Yn stafell Jengyd, roedd rhaid datrys posau er mwyn ceisio dianc mewn pryd… gan ddysgu ambell beth am yr hanesyn lleol rhyfeddol ar yr un pryd.

Roedd y blog byw ar Caron360 yn boeth bnawn Sul, wrth i’r timau gadw llygad ar amseroedd pawb arall, i weld pwy fyddai’n cipio’r clod am fod y cloua i jengyd!

Does dim gwir bod rhai’n dal yn sownd yn y stafell o hyd…

Blog byw o JENGYD

Enfys Hatcher Davies

Escape Room Llanddewi Brefi – dewch i weld sut mae’n mynd.

Camu ymlaen

“Gyda dros 20 o ddigwyddiadau ymlaen dros y penwythnos – a’r rhan fwyaf o’r rheiny’n bethau na fyddai wedi digwydd heblaw am y sbardun – gallwn ddweud bod cymunedau bellach yn gweld golau dydd,” meddai Lowri Jones, Cydlynydd Bro360.

“Mae ’na deimlad y gallwn gamu ymlaen o Covid ac ailgynnau bwrlwm bro unwaith eto. Tybed a fydd gweld y straeon ar y gwefannau bro yn eich ysbrydoli chi?”