Mae Dad yn smalio’i fod o’n iawn. Weithiau, yn yr wythnosau diwethaf, dw i’n meddwl ei bod hi wedi cymryd tan rŵan i mi wir ddod i’w ’nabod o. I weld ei natur go-iawn o, sy’n cuddio tu ôl i haen ar ôl haen o ddyletswydd – yn ŵr, yn weithiwr, yn dalwr biliau, yn bresenoldeb tawel, llonydd ynghanol anhrefn y teulu. Yn dad. Wrth gwrs, hynny yn fwy na dim.