Dydi Cymru byth yn siomi – ym mha wlad arall yn y byd y byddai stori am weinidog yn ymddiswyddo i’w gweld ar dudalennau newyddion cenedlaethol? Mae ’na rywbeth hwyl a hyfryd o hen ffasiwn am y peth. Y parchedig ddoctor Felix Aubel oedd dan sylw; y peth agosaf sydd gan Gristnogaeth Gymreig, sy’n eithaf tawel ac annwyl, at Efengyliaeth Americanaidd asgell-dde.