Pob lwc i chi oes oeddech chi’n gwylio S4C ddydd Sul diwethaf a chithau ddim yn hoff o bêl-droed! Yn dilyn darllediadau o ddwy gêm fyw gefn wrth gefn yn y prynhawn, cafwyd rhaglen ddogfen newydd gyda’r nos, Stori Jimmy Murphy. Roeddwn i wrth fy modd ond hefyd yn sylweddoli nad pawb sydd yn gwirioni’r un fath, ac efallai bod chwe awr o gicio gwynt yn ormod, yn enwedig gan ystyried mai dyma’r unig gynnwys gwreiddiol y diwrnod hwnnw, ar wahân i newyddion.