Ar ôl colli drafft cyntaf ei hail lyfr i blant mewn tân, mae’r awdures Medi Jones-Jackson “mor falch” bod y llyfr sy’n cyflwyno merched dylanwadol Cymru i blant y wlad wedi’i gyhoeddi.

Aeth cartref yr awdur yn Bow Street ar dân y llynedd, a chollodd ei gwaith ymchwil, ei nodiadau a chopi cychwynnol o’i gwaith.

Ond er gwaethaf hynny, mae hanesion deuddeg o ferched ysbrydoledig wedi cyrraedd golau dydd ac i’w gweld rhwng cloriau Genod Gwych a Merched Medrus 2.