Wythnos diwethaf, soniodd fy nghyd-golofnydd Cris Dafis am y syniad o dderbyn Bro Gymraeg “newydd”, ei bod yn rhywbeth sy’n cwmpas Cymru gyfan. Ac mae Cris yn iawn o ran un peth – mae natur, demograffeg ac arferion y Gymraeg yn newid, mewn rhai agweddau er gwell, a rhai er gwaeth. Rhaid wynebu hyn. Bydd y ffordd y deliwn ni â’r heriau hynny dros y blynyddoedd i ddod yn sicrhau pa fath o fywyd fydd i’r Gymraeg. Fydd hi ddim y