Dychmygwch ennill prif wobr lenyddol eich gwlad am eich nofel gyntaf yn 22 oed, a chwmni teledu yna’n dangos diddordeb yn ei throsi i’r sgrin.
Dyna’n union sydd wedi digwydd i Megan Hunter o Benygroes, a gipiodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2021 yr wythnos ddiwethaf am ei nofel Tu Ôl i’r Awyr. Daeth i frig y categori Ffuglen, gan guro Wal, Mari Emlyn a Twll Bach yn y Niwl, Llio Maddocks, a chipio’r brif wobr, gyda Gwobr Barn y Bobol Golwg360 yn mynd i gofiant swmpus Hazel Walford Davies i OM Edwards.
Yn y nofel, mae llwybrau Anest, sy’n 17, a Deian, sy’n 15, yn croesi gyntaf ar ward seiciatryddol, ac yna yn y Chweched Dosbarth. Mae’r awdur wedi arbrofi â’r iaith wrth fynegi meddyliau Anest – yn adlewyrchu iaith lafar gyfoes pobol ifanc Arfon, yn dalfyriadau Snapchat i gyd.
Mae’r ymateb sydd wedi bod i’r nofel yn atgoffa rhywun o’r ymateb syfrdanol a fuodd i Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros wedi iddi ennill y Fedal Ryddiaith yn 2018. Mae fel pe bai yn ateb galw penodol am nofelau am iechyd meddwl ymhlith yr ifanc.
“Dw i’n hynod ddiolchgar am yr ymateb, yn enwedig gan y bobol ifanc sydd wedi cysylltu â fi,” meddai Megan Hunter, sydd ar fin mynd i drydedd flwyddyn ei chwrs Athroniaeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. “Pobol ifanc sydd efo anhwylderau iechyd meddwl eu hunain, ac maen nhw wedi trafod eu profiadau. Hynna ydi’r peth gorau i mi, bod y llyfr wedi cyrraedd pobol sydd efallai angen y fath yma o gysur.
“Mae anhwylderau iechyd meddwl yn ofnadwy o gyffredin ymysg pobol ifanc. Mae’r rhan fwyaf o fy ffrindiau i – a dw i fy hun wedi cael anhwylderau yn y gorffennol. Mae pawb yn teimlo’n unig yn eu harddegau i ryw raddau.
“Mae’r byd ysgol a’r byd cymdeithasol mor gul, achos mae gymaint o ddisgwyliadau arnoch chi. Ac yn oes y cyfryngau cymdeithasol, mae o hyd yn oed yn waeth. Mae o’n bwysig bod pobol ifanc yn teimlo eu bod nhw’n gallu bod yn nhw’u hunain.”
Dechrau’r daith yw hyn, gydag “ambell i gwmni teledu” wedi cysylltu gyda hi yn dangos diddordeb mewn gwneud rhaglen deledu neu ffilm.
“Gawn ni weld be ddaw,” meddai. “Dw i ddim yn siŵr be’ ddaw o hynny. Camau cychwynnol iawn iawn ydyn nhw. Mae o’n ofnadwy o gyffrous… Mae hi’n fraint bod pobol yn meddwl bod yna werth i’r stori a’u bod nhw eisio cyrraedd mwy o bobol drwy’r sgrin.”
Nofel “hyfryd” ar y cyd
Mae hi newydd gyhoeddi nofel fer, Cat, ar y cyd â Maisie Awen yn rhan o gyfres Y Pump gyda’r Lolfa, am ferch ysgol ym mlwyddyn 11.
Mae’r pum nofel wedi eu sgrifennu drwy lygaid pum cymeriad, pob un ohonyn nhw â rhinwedd sy’n golygu eu bod nhw ar y tu allan i gymdeithas arferol yr ysgol – mae un ar y sbectrwm awtistig, un arall ag anabledd symud, un yn perthyn i grefydd Mwslemaidd, un arall sy’n cwestiynu rhywedd. “Ac mae fy nghymeriad i, Cat, yn dioddef efo salwch ac yn dod o gefndir ethnig amrywiol,” meddai Megan Hunter. “Mae Maisie yn dod o gefndir hil cymysg, felly roedd o’n fraint anhygoel cael cyd-sgrifennu fo efo hi. Roedd hi’n cynghori o ran yr elfennau hynny…. Roedd yn beth hyfryd iawn.
“Mae o mor bwysig ein bod ni’n cael lleisiau onest mewn llenyddiaeth Gymraeg i bobol ifanc. Mae hi mor bwysig bod pobol ifanc yn gweld cymeriadau maen nhw’n gallu uniaethu efo nhw, yn enwedig os oes ganddyn nhw rinwedd sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n wahanol.”