Sefydlu Encôr mewn Pandemig
Pwy sydd wedi colli cyd-ganu ers dyfodiad y pandemig? Wel, mae criw o Fangor wedi gwneud rhywbeth am hynny, trwy sefydlu côr newydd o’r enw Encôr!
Sut maen nhw’n llwyddo i ganu a chadw at y cyfyngiadau? Trwy ymarfer yn yr awyr agored a dan do – yn stadiwm pêl-droed Nantporth, Bangor.
Yn ôl un o’r trefnwyr, “mae’n brofiad sy’n uno, ysgogi’r meddwl, yn hwyl ac yn heriol os ydych yn cesio dysgu cân fel Bohemian Rhapsody!”
Mae croeso i aelodau newydd ymuno – does dim angen profiad o gyd-ganu, dim ond yr awydd i fwynhau. Mwy ar BangorFelin360.
Blas o’r Bröydd
Murlun yn dod â lliw a blas o hanes i stryd fawr Bethesda
Ydych chi wedi bod i Fethesda yn ddiweddar? Mae’n debyg fod unrhyw un ohonoch sydd wedi bod draw i’r stryd fawr wedi gweld y murlun sy’n ymgorffori rhannau pwysig o orffennol lliwgar Bethesda. Daw yn dilyn ymgynghoriad gyda’r gymuned leol, ac mae’n cynnwys cyfeiriad at gôr meibion a chôr merched Chwarel y Penrhyn, yn ogystal â chyfraniad llenyddol trigolion yr ardal.
Ewch i Ogwen360 i ddarllen mwy o hanes y murlun, a gallwch weld llun ohono yn Llun yr Wythnos.
Murlun yn dod a lliw a blas o hanes i stryd fawr Bethesda
Tref hardd yw #Llanbedyneiblodau
Mae trigolion Llanbed, ar y cyd â Chyngor y Dref, siopau’r dref a Chanolfan Arddio Roberts Llanbed, wedi bod yn brysur yn yr wythnos ddiwethaf yn arddurno’r strydoedd a’r siopau gyda blodau o bob lliw a llun.
Mae lluniau o’r siopau wedi’u cyhoeddi ar Clonc360, a bydd mwy yn cael eu rhyddhau yn yr wythnosau nesaf ac ar y cyfryngau cymdeithasol – maen nhw’n werth eu gweld!