Yr arch ddychanwr Dafydd Huws wnaeth fedyddio Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ‘Y Cynlleiad’.

Dyna enw athrylithgar ar y lle a ddaeth i fodolaeth yn 1999 a chael ei ddirmygu fel dim byd mwy na ‘chyngor sir ar sdilts’.

Ac mae gwybodaeth newydd wedi dod i’r fei sy’n dangos bod Llywodraeth Prydain yn cytuno mai ‘Cynlleiad’ gawson ni i ddechrau.