Gyda’r gofod yn y newyddion ddechrau’r wythnos, roedd hi’n briodol reit fod un o griw Senedd Cymru yn crybwyll Mars – y blaned, hynny yw, ac nid y siocled blasus sy’n gymorth wrth weithio, gorffwys a chwarae.

Do wir, fe aeth Dici Branson lan yn ei awyren-roced Fyrjin Galactic, yr holl ffordd at gyrion y gofod am awr a hanner o hwyl ar fore Llun.