Mae Cymdeithas Tai Gwynedd, y gymdeithas wirfoddol annibynnol sy’n darparu cartrefi i bobol Gwynedd yn eu cynefin, yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed eleni. Rydym yn hynod falch o fod wedi cyfrannu i leddfu peth ar y broblem sy’n gwaethygu mor gyflym y dyddiau hyn, ac yn hynod ddiolchgar i’n buddsoddwyr sydd wedi gwneud hyn yn bosib. Erbyn hyn, mae gwerth eiddo’r Gymdeithas yn fwy na thair miliwn o bunnau, a does neb yn elwa o waith y Gymdeithas ond y tenantiaid a’r crefftwyr sy’n cynnal a chadw