Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun i ddelio â’r argyfwng tai yr wythnos ddiwethaf, rai diwrnodau cyn cynnal rali ‘Hawl i Fyw Adra’ ar lannau Tryweryn, a ddenodd rhyw fil o bobl, nifer nid ansylweddol i rali yng Nghymru. Er i’r Llywodraeth ymddangos yn anarferol o frwd dros weithredu wedi’r etholiad, a theimlad cyffredinol fod o leiaf rhywbeth ar droed, doedd hi fawr o syndod i’r cynllun gael ei lambastio o sawl cyfeiriad, o Gymdeithas yr Iaith i’r Ceidwadwyr, am ei fod mor siomedig.