Er bo’ fi’n Gymro glân gloyw (ma’ gas ’da fi’r dywediad ’na – se well ’da fi fod yn Gymro gwael gwelw dw i’n credu), ma’ ’na un o ‘draddodiadau’ Cymru nad ydw i’n ymhél ag ef.

Wel, dalwch sownd, ma ’na sawl un… dw i erioed ’di cerdded rownd ’da phenglog ceffyl ar ben ffon, dwi i erioed ’di bod mewn côr sy’n canu’n ddiofyn mewn tafarn, a dw i erioed ’di bod i gopa’r Wyddfa (yw hynna’n draddodiad? Digon agos… a s’dim diddordeb ’da fi fynd, ’chwaith, ers gweld y ciwio ’na llynedd – galla’ i giwio yn Co-op, jolch yn fawr).

Ond ta waeth, yr un dw i am sôn am yma yw hyn: dw i erioed wedi bod ar bwyllgor.

Ry’n ni’n wlad o bwyllgorau a chymdeithasau, a dw i wastad wedi synnu faint o bobol sy’n fodlon rhoi o’u hamser i ymhél â nhw. A da iawn chi. Achos allen i ddim dychmygu unrhyw beth gwa’th.

Ma’ hyd yn oed y geiriau ‘standing orders’ yn gwneud i fi ishe sgrechen a rhedeg i ffwrdd. Yn lwcus, fodd bynnag, dw i ddim y math o berson sy’n ca’l ’i wahodd ar y pethe ’ma, chwaith, so rili ma’ hynna wedi gweithio mas yn ddigon cyfleus inni gyd.

Fe darodd hyn fi ddwywaith ’leni: unwaith pan aeth fideo reit ddoniol o gyfarfod cyngor plwyf yn Swydd Gaer yn feiral gan wneud y clerc, Jackie Weaver, yn enwog am y ffordd ddiffwdan y deliodd hi gyda’r dynion hunanbwysig oedd yn gweiddi’n gas arni.

Ac yn ail, yn ddiweddarach, wrth wylio’r ffestifal o gwmpo mas a checru sydd wedi datblygu o fewn mudiad YesCymru.

Ma’i wedi bod yn amlwg ers peth amser bod YesCymru, o leia ar y cyfryngau cymdeithasol, wedi troi’n enghraifft o’r hyn fyddai ym mhwyllgor neu gymdeithas fy hunllefau. Dadl dragwyddol, a syndod o gas, rhwng pobl sydd, i fod, yn cytuno ar un mater, ond yn gallu cytuno ar fawr ddim arall, nac eisiau gwneud hynny.

Pobl yn cyhuddo pobl eraill o geisio trefnu coup (er bod rhai o’r bobl hynny yn hysbys i fi fel pobl na allai drefnu p*ss up mewn bragdy), tra bod lot yn bod yn aruthrol o gas am ei gilydd (hyd yn oed o fy safonau cwerylgar i), ac eraill yn gweiddi’n hunanbwysig, braidd, am reolau sefydlog.

Ma’ fe’n rhyw fath o ficrocosm o’r culture warswith added standing orders.

Nawr, wnes i ddim ymuno â YesCymru erioed, er ifi fynd ar ambell rali… a’u mwynhau am eu naws cyfeillgar, gyda llaw.

Yn bennaf, wnes i ddim ymuno achos fy agwedd tuag at bwyllgorau a chymdeithasau, ond hefyd yn rhannol achos, heblaw am drefnu ralis, do’n i ddim yn siŵr iawn beth o’n nhw am wneud. Dw i’n ca’l y teimlad bo’ nhw’n dal heb ddatrys hynny.

A bod yn deg, pan ddaeth y pandemig a’i gwneud hi’n amhosib cynnal ralis, efallai fod rhywfaint o ddadlau mewnol yn anochel.

Fe gawson nhw eu cyfyngu i ymgyrchu ar y we – ac ro’dd hyd yn oed hynny’n arwain at gweryla, wrth iddyn nhw ryddhau fideos, yna dadlau am eu cynnwys, a’u tynnu i lawr nes mlaen. Ro’dd yr holl beth yn hynod ddi-fudd.

Ond, gyda’r cyfyngiadau ar fin cael eu llacio ymhellach, mi fydde nawr yn amser da i bawb sydd yn YesCymru drïo symud ymlaen a dychwelyd at y syniad o ymgyrchu dros annibyniaeth mewn ffordd hwyliog a chyfeillgar.

Er i rai chwerthin am ben y syniad o theatr stryd fel dull ymgyrchu yn ddiweddar, dw i ddim yn gweld dim byd o’i le ar hynny. Yn sicr, mae’n well na bod mewn dadleuon tragwyddol sy’n aml iawn yn adlewyrchu’r hyn sydd yn y wasg Lundeinig yn hytrach na sgyrsiau go-iawn rhwng pobl yng Nghymru.

Dyw’r ins and outs ddim o ’musnes i fel rhywun nad yw’n aelod… ond ma’ fe’n niweidiol. “Ma fe bron yn ddigon i roi fi off annibyniaeth i Gymru, boi!” medde un ffrind wrtha’ i yn ddiweddar. Ac o’dd e mond yn hanner jocan. Ma fe’n sicr wedi atgyfnerthu fy nrwgdybiaeth o bwyllgorau a chymdeithasau!

Ma’ nod y mudiad yn hysbys – ma’ fe lan i’r mudiad nawr benderfynu sut i ymgyrchu, sut i wario arian yr aelodau. Dyw e ddim fel bod prinder dadleuon yn erbyn goroesiad y status quo, nadi? Fel rhywun o’r tu allan sy’n gefnogol i annibyniaeth, fe weda’ i mai’r hyn hoffwn i ei weld yw ymgyrchu creadigol, cynhwysol, cyfeillgar dros Gymru annibynnol. Gyda dim ond un rheol sefydlog: chill out! Neu fydd rhaid cael Jackie Weaver mewn i roi trefn…

YesTheatr

Rhiannon Mair, Darlithydd Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru, sy’n trafod galwad YesCymru am brofiad theatraidd i ymgyrchu dros annibyniaeth