Cafodd YesCymru eu lambastio ar Twitter yr wythnos ddiwethaf am eu galwad am geisiadau ar gyfer profiad theatraidd awyr agored er mwyn hyrwyddo’u hachos.

Roedd sawl un yn mynnu na fyddent eisiau gweld eu tal aelodaeth yn cael ei wario ar y ffasiwn siew.  “Gwariwch ar bethau callach fel… hyrwyddo ac, ym, ystadegau,” oedd eu crawc, fel tase’r awgrym yn un hurt.

Mi allai galwad YesCymru fod wedi bod ychydig yn wahanol – i roi ychydig mwy o amser a dealltwriaeth bod cynhyrchu profiad theatraidd yn broses sydd yn gofyn am dipyn o gynllunio… ond mater bach yw hynny.

Dyw galwad YesCymru ddim yn un hurt, fodd bynnag.

Dw i’n meddwl fod pwyslais diweddar y llywodraeth ar bwysigrwydd bynciau STEM, ar draul y celfyddydau, yn golygu bod y cyhoedd yn gweld ein diwylliant fel rhywbeth sydd yn eilradd ac yn llai hanfodol i’n bodolaeth.

Theatr, protest a gwleidyddiaeth

Mae’r berthynas rhwng theatr, protest a gwleidyddiaeth yn un agos. Ffurf cynnar o theatr yng Nghymru oedd yr Anterliwt, yn eu hanterth ar ail hanner y ddeunawfed ganrif, lle’r gwelwyd criwiau o berfformwyr teithiol yn perfformio mewn ffeiriau a mannau cyhoeddus.

Byddai’r dramâu yma’n trafod themâu oesol (Cariad, marwolaeth, trachwant). Roedd y Mudiad Drama yng Nghymru, a ddechreuodd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac a barodd tan yr Ail Rhyfel Byd, yn fudiad a welodd perfformio dramâu ag iddynt bwyslais cymdeithasol mewn capeli Cymraeg. Roedd hyd at 500 o gwmnïau bach yn perfformio’r dramâu hyn.

Mae enghreifftiau cyfoes o’n theatrau cenedlaethol yn ategu gwerth mynd â theatr at y bobl i fannau awyr agored, megis Blodyn gan Theatr Genedlaethol, a The Passion gan National Theatre Wales (a lwyddodd ddenu degau o filoedd o drigolion lleol Port Talbot i ymwneud a’r darn).

Wedyn wrth edrych ar brotest fel perfformiad (mae ‘na berfformwyr, cynulleidfa a gofod neulltiol i brotest), gwelwn enghreifftiau lu o sut y mae modd defnyddio gweithrediadau perfformiadol er mwyn tynnu sylw at achosion neulltiol.

Mae’r Madres y Abuelas Plaza de Mayo yn yr Ariannin yn Famau sydd yn cwrdd yn ddefodol wythnosol, ers y saithdegau hwyr, i gerdded sgwâr y Plaza Del Mayo i fynnu tegwch am ddiflaniad 30,000 o desaparecidos; eu plant a cofodd eu cipio gan y junta. Gweithred perfformiadol i fynnu sylw at fater gwleidyddol.

Defnydda Pussy Riot wisg a cherddoriaeth a gweithredoedd perfformiadol i dynnu sylw at hawliau menywod yn Rwsia a thu hwnt.

Traddodiad hir

Mae gennym ni yng Nghymru draddodiad hir o ddefnyddio symboliaeth perfformiadol yn ein protestiadau; gwisgoedd Benywaidd Merched Beca, neu yn fwy diweddar ysgrifennu trawiadol ‘hawl i fyw adra’ yn mynnu defnyddio gofod traethau Llyn fel llwyfan.

Ond mae’n anodd cadw crafangau cyfalafiaeth i ffwrdd o’r theatr neu weithredoedd perfformiadol ac yn aml mae gwerth ariannol yn trechu gwerth cymdeithasol.

I gyffredinoli, mae theatr wedi ei ganoli i ganolfannau a’i ‘ddosbarth-canoleiddio’ i’r fath raddau sydd yn ei wneud yn anodd i bobl ymwneud ag ef yn wleidyddol, neu gael gwerth gwleidyddol ohono.

Mae’r duedd i fynychu’r theatr i gael diddanwch a dihangfa – yn hytrach na fel fforwm i fynd i’r afael a phroblemau’n cymdeithas yn golygu ei fod yn colli effaith ac egni.

Rydw i wrth fy modd yn mynd i’r theatr i ymgolli mewn sioe fawr weithiau, ond os taw dyna’n unig yw profiad theatraidd, gall fod yn un sydd yn llonyddu yn hytrach na chorddi.

Byddai hyn i’r gwrthwyneb i ddymuniad y dramodydd enwog Bertold Brecht er enghraifft, oedd am i’r gynulleidfa deimlo’u bod wedi eu ‘harallu’ o’i ddramâu, ac felly’n cael eu hysgogi i weithredu yn gymdeithasol.

Mae’r bwriad i greu rhywbeth o Gymru ac am Gymru yn benderfyniad grymus, yn enwedig o ystyried fod y Festival UK ddiwylliannol yn digwydd y flwyddyn nesaf.

Os yw annibyniaeth yn mynd i lwyddo, bydd rhaid i’n glanhawyr, artistiaid, gwyddonwyr, athrawon, di-waith, myfyrwyr…..(rhestr hirfaith o bopeth) uno a rhannu, gwrando ac addysgu’n gilydd mewn gwahanol fforymau.

A s’dim rhaid i bawb fynd i weld e, os nagyn nhw mo’yn.