Ffiw!

Dyna mae’n siŵr aeth drwy feddwl Keir Starmer wrth i Kim Leadbeater (chwaer y diweddar Jo Cox) ennill isetholiad Batley a Spen o 323 o bleidleisiau. Cyn hynny, roedd nifer ar adain chwith y blaid Lafur wedi dechrau cynllwynio i gael gwared arno – ac ethol Angela Rayner yn ei le. Fe fyddai hynny yn mynd â’r blaid yn ôl i gyfeiriad y gors wleidyddol a grëwyd gan Momentum a Jeremy Corbyn.

Er y fuddugoliaeth, mae’n anodd credu fod unrhyw blaid yn or-hapus yn dilyn yr isetholiad.