Mae hi’n ddechrau Gorffennaf ac mae pêl-droed cystadleuol yn ôl ar ein caeau. Mae tymor 2021/2022 wedi dechrau yn barod i rai o’r cynghreiriau. Yn gall iawn, maen nhw wedi cychwyn yn fuan iawn er mwyn sicrhau cwblhau’r gemau i gyd,  rhag ofn y daw cyfnod clo arall yn ystod y flwyddyn. Bydd hi’n ddiddorol gweld pa mor llwyddiannus fydd gemau’r Haf eleni. Mae yna sawl un sydd yn meddwl mai dyma’r ffordd ymlaen i’r gêm yng Nghymru.