Pwy sy’n dweud mai dim ond gêm ydi pêl-droed?

“Trwy ddymuno’n dda i Loegr a’r Alban ond gan wneud pwynt o anwybyddu Cymru, cadarnhaodd [Boris] Johnson fod bodolaeth Cymru’n sarhad i’w Dorïaeth ymosodol, imperialaidd, unbenaethol. All y cec-ceciwr celwyddog ddim hyd yn oed ei wthio’i hun i ddweud y gair, oherwydd y byddai hynny’n cydnabod bod Cymru’n uned…” (dicmortimer.com)

A dyna dymer y trafod gwleidyddol hefyd – a fyddai Llywodraeth Dorïaidd yn Llundain fyth yn derbyn Cymru’n bartner mewn Undeb Brydeinig? Hyn yn sgil y diweddara’ o ddatganiadau Mark Drakeford am ffederaliaeth …

“Beth yn union yw’r ysgogiad i blaid sydd wedi cael pŵer llwyr dan un system fynd ati ar unwaith i newid y system honno am un sy’n gosod cyfyngiadau ar eu gweithredoedd? Beth bynnag, mae’n brosiect a fyddai fwy na thebyg yn cymryd degawdau i’w chyflawni, gyda chomisiynau ac ymchwiliadau di-ri’ ar hyd y ffordd. Waeth pa mor ddidwyll ydi ffederalwyr, mae gofyn i ni osod ein holl ddyheadau am statws gwladwriaeth o’r neilltu yn y tymor byr yn gyfnewid am ganlyniad annhebygol iawn, yn gyfystyr â dweud wrthon ni bod rhaid derbyn y sefyllfa bresennol am byth.” (borthlas.blogspot,com)

Agwedd arall ar yr un ddadl oedd gan Ifan Morgan Jones ar nation.cymru – bod angen disodli’r Ceidwadwyr hyd yn oed i ddechrau’r drafodaeth …

“Os yw Lloegr, fel y mae’n ymddangos, y tu hwnt i Lafur, faint fydd hi cyn i’r blaid yng Nghymru ddod i delerau ag oblygiadau hynny? Fyddai colli Etholiad Cyffredinol arall yn ddigon? Newid arall mewn arweinydd, ond dim newid ffawd? Neu ai’r agwedd dragwyddol fydd, mi gyrhaeddwn ni tro nesa’? Un gwth arall? Mae’r gefnogaeth i annibyniaeth Cymru yn y Blaid Lafur – yn arbennig ymhlith yr ifanc – yn awgrymu bod barn yn dechrau symud, o leia’ ar lawr gwlad. Y peryg yw, wrth aros am yr amhosib yn Lloegr, y bydd hi erbyn hynny’n rhy hwyr i Lafur yng Nghymru?”

Os ydi hynny’n wir, meddai Leanne Wood …

“…fe ddylai olygu y gallwn ni’n awr newid telerau’r ddadl a symud ymlaen o drafod a ddylen ni gael annibyniaeth, gan ganolbwyntio yn hytrach ar pam r’yn ni’n mo’yn annibyniaeth, gyda gweledigaeth o sut y dylai Cymru annibynnol fod.” (thenational.wales)

Ond dydi hynny ddim yn hollol syml fel y byddai cip ar flog jacothenorth neu drydar am werthoedd YesCymru yn ei ddangos. Hawl un ydi nonsens y llall. Ac mae fel petai Dafydd Glyn Jones yn poeni am y Cyngor Llyfrau hefyd, sy’n trafod rhoi rhybuddion tramgwyddo ar lyfrau ..

“Homer, Soffocles, Shakespeare, Dostoefsci – roisoch chi un o’r rhybuddion hyn ar flaen eich gweithiau? Ac yn wir beth am lên y Cymry? Y Gododdin, Canu Llywarch Hen, Y Mabinogi – dyna ichi weithiau sy’n cyfeirio at bethau go ofnadwy…Ac yn Llyfr Mawr y Plant I, druan o ieir Eban Jôs!…Maith ffolineb yr oes. Calliwch wir.” (glyndda.wordpress.com)