Cofis ar y Beic
Penderfynodd Gari ac Alun o Gaernarfon feicio dros 100 milltir mewn diwrnod i godi arian at Hosbis Dewi Sant i ddiolch am y gwasanaeth mae gwraig eu ffrind, Dafydd, yn ei gael. Fel modd o ddiolch, aeth y ddau amdani a beicio o Gastell Caernarfon i Fiwmares, Conwy, Dolwyddelan, Harlech, Cricieth, cyn dychwelyd yn ôl i dre.
Cychwynnodd y ddau ffrind ar eu taith am 7 y bore yng nghanol glaw Caernarfon. Eu targed oedd casglu £250, ond llwyddon nhw i gasglu dros £1,500, ac mae’r swm yn dal i gynyddu! I glywed mwy am eu taith ac i gyfrannu, ewch i Caernarfon360.
Cofis ar y Beic
Galw ar ferched i sefyll yn etholiadau 2022
O’r 42 cynghorydd sir yng Ngheredigion, dim ond 5 sydd yn ferched – y trydydd isaf yng Nghymru. Felly, mae noson wedi ei threfnu ar 12 Gorffennaf sy’n gwahodd unrhyw un i ymuno i wrando ar brofiad gwleidyddion lleol, gyda’r bwriad o annog cymaint o ferched â phosib i sefyll fel ymgeiswyr yn etholiadau’r Cyngor Sir a Chynghorau Cymuned a Thref ym mis Mai 2022.
I weld pwy fydd yn siarad ac am y manylion ymuno, ewch i BroAber360. Ewch amdani ferched!
Galwad ar ferched i sefyll yn etholiadau 2022
Criw o Fethesda yn dringo Ben Nevis
Ar ddydd Gwener 25 Mehefin, cychwynnodd criw o 23 ar eu taith 8 awr i fyny i Ogledd yr Alban i ddringo Ben Nevis ar gyrion Fort William. Er bod nifer ohonyn nhw yn ddringwyr profiadol, dyma’r tro cyntaf i rai ddringo mynydd uchaf Prydain, sydd 1,345m uwchlaw’r môr.
Rhyw 5 awr gymerodd hi i ddringo’r mynydd, a chodwyd dros £7,000 at Elusen GIG Gogledd Cymru, sef Awyr Las, i wella cyfleusterau, offer a gwasanaethau i’r rhai sydd eu hangen. Mwy o’u hanes ar Ogwen360.
Straeon bro poblogaidd yr wythnos
- Criw Cwmann wedi cyflawni Her y Tri Chopa, gan Dylan Lewis ar Clonc360
- Dydy stori fach ddim yn fach i bawb: Nia ym myd newyddiadura, ar BroWyddfa360
- Gwallt gwerthfawr Gwenno, gan Catherine Hughes ar Caron360