‘Person annwyl, caredig, cefnogol, ac un o fawrion Aberteifi a’r sîn gerddoriaeth Gymraeg’, a ‘bachan hyfryd gyda hiwmor heintus’.

Dyna flas ar rai o’r teyrngedau a ymddangosodd ar Twitter yn union wedi i’r newyddion dorri am farwolaeth y cerddor Wyn Jones, o ganser y pancreas yn 61 oed. Daeth hi’n amlwg o fewn eiliadau cymaint o barch oedd yna tuag at y cerddor a’r cynhyrchydd cerddoriaeth ym mhob cwr o Gymru, ac ym mhob maes.