Felly hwyl fawr, Matt Hancock, y dyn fydd neb yn ei fethu. Roedd y ddrama yn ei gylch, ers i’r fideo yna ddod i’r amlwg ohono’n gafael ar ei gynorthwyydd fel petai’n lwmp o ham, yn rhagweladwy. Dros y pandemig, roedd Hancock wedi bod yn ddefnyddiol iawn i’r llywodraeth fel modd i dynnu sylw oddi ar ei methiannau ehangach. Fall guy parod oedd o; dyn yr oedd ei unig werth yn chwarae rhan y ffŵl di-glem, a wnaeth heb ronyn o hunan-barch.