Mae ’na lawer iawn, iawn o bethau nad ydw i’n eu deall am bobol.

Dw i ddim yn deall pam mae cynifer o ddynion yn meddwl eu bod nhw’n well na menywod.

Pam mae cynifer o bobl heterorywiol yn meddwl bod ganddyn nhw hawl i benderfynu pwy all pobol nad ydyn nhw’n heterorywiol eu caru.

Pam mae cynifer o bobol wyn yn meddwl eu bod nhw’n rhagorach na phobol nad ydyn nhw’n wyn.

Pam mae cynifer o Americanwyr a Phrydeinwyr yn meddwl eu bod uwchlaw holl genhedloedd eraill y ddaear.