Nid un ymchwiliad sydd ei angen i hynt a helynt y pandemig yng ngwledydd Prydain. Mae angen o leia’ ddau.

Un sydd wedi ei addo hyd yma, a hwnnw fel petai wedi ei amseru’n daclus i wneud yn siŵr na fydd ei ganlyniadau’n dod tan ar ôl Etholiad Cyffredinol.

Hwnnw ddylai edrych ar yr ymateb i’r argyfwng iechyd a gofal, i’r paratoi neu’r diffyg paratoi ac i’r gwahanol ymatebion ar hyd y deunaw mis diwetha’.