Heddiw, dydy Aberteifi ddim yn dawel. Does dim mudandod wedi syrthio’n drwchus ac yn drwm dros dref sydd mewn profedigaeth, dim distawrwydd llonydd, llethol. Heddiw, yn ei galar am y dynion hyn,  mae’r dref yn dal i ganu alawon eu hetifeddiaeth.

Yma, mae hen ganeuon ar y strydoedd a’r lleisiau a’r afon, hen ganeuon sy’n swnio’n newydd bob dydd.