Mae’n ymddangos bod Boris Johnson yn ôl yn ei hen swydd yn ‘ohebydd Ewrop’ i’r Daily Telegraph.

Mae Rhyfel y Sosej yn swnio’r union fath o beth y byddai o’n ei sgrifennu/ddyfeisio ar gyfer un o’i straeon.

Ac yn union fel yr erthyglau hynny, does yna fawr o amheuaeth mai dadl wedi ei chreu yn fwriadol ydi hon a’r pwyslais ar ‘sosejys’ a ‘chicken nuggets’ yn hytrach na ‘chigoedd oer’ er mwyn dilorni’r Undeb Ewropeaidd.