Nid ydym yn hoffi pobl hiliol.
Ond wrth i dwrnamaint Ewro 2020 gychwyn, pam fod cymaint o ffws am chwaraewyr pêl-droed yn pen-glinio cyn gemau? Ydy’r cefnogwyr sy’n eu gwawdio yn hiliol? Neu a oes rhywbeth arall ar y gweill?
Ar ddechrau’r tymor fe’n hysbyswyd gan y BBC fod chwaraewyr yn pen-glinio er mwyn cefnogi Black Lives Matter. Gwisgwyd logo’r mudiad BLM ar grysau’r chwaraewyr.