Wythnos diwethaf, mynnodd Darren Millar, AoS Gorllewin Clwyd, nad oes yna fandad i ehangu grymoedd y Senedd. A hynny er gwaetha’r ffaith i bolau ers blynyddoedd ddangos bod mwyafrif pobl Cymru am i hynny ddigwydd, a fis diwethaf i bleidiau a oedd â mwy o bwerau’n addewidion yn eu maniffestos ennill 44 o seddi Bae Caerdydd. Ni allai’r mandad fod yn gliriach, waeth faint a ddymunai’r Torïaid yn wahanol.