Mae’n siŵr mai dyma’r golofn gyntaf yn Golwg i gael ei sgrifennu yn Baku, Azerbaijan.
Do, fe benderfynes i ddod mas ’ma. Yn y pen draw, fe benderfynes i, ar ôl 18 mis lle dwi ’mond wedi gadael Caerdydd rhyw deirgwaith a’r Tyllgoed rhyw lond llaw o weithie, y bydde hunanynysu am 10 diwrnod ychwanegol werth e i gael gweld Cymru yn ein hail dwrnament yn fy oes.
Ro’n i’n teimlo ’chydig yn euog i ddechre ma’ raid i fi gyfadde – ac o’dd rhaid osgoi camerâu Sky a’u cwestiynau piwis ym maes awyr Caerdydd ar fore’r flight – ond o gyrraedd ’ma, ro’n i’n teimlo dipyn gwell.
Ma’ ’na drefniadau hylendid yn y gwesty, a ma’r bobol yn falch o ga’l ni ’ma – ma’n amlwg. A dyw hynna ddim bob amser yn wir wrth deithio’n dilyn pêl-droed!
Dw i mas ’ma ar ben fy hun y tro hwn, sy’n dod a’i heriau ei hun: os a’i ar goll, alla’ i ddim beio neb arall, a do’dd ’na neb i weud wrtha’ i y bydden i’n gwario dros hanner can punt drwy ddefnyddio’r rhyngrwyd am 5 munud ar fy ffôn.
Ma’ fe hefyd yn brawf diddorol o sgiliau sgwrsio. Dw i’n ystyried fy hun yn dipyn o sgwrsiwr, ond mae sgwrsio trwy’r dydd gyda phobol nad ydw i’n nabod wedi amlygu ambell wendid yn fy skill set: “I really do love the humble tomato” medde fi wrth un gŵr nad oedd wedi gofyn am fy marn am domatos ac nad oedd yn dda o gwbl am ffugio diddordeb.
Cofiwch chi, ddim fi yw’r unig un sy’n stryffaglu – dw i wedi cwrdd ag un gŵr sydd â gwybodaeth drylwyr iawn am volcanos a chryn benderfynoldeb i rannu’r wybodaeth honno. Ma’ un arall wedi dweud wrtha’ i ar fwy nag un achlysur ein bod ni yn yr unig brifddinas sydd o dan lefel y môr. Ffaith ddiddorol – y tro cynta’.
Ond ar y cyfan ma’ pawb yn dod ymlaen yn grêt… ro’dd ’na Swiss yma, wrth gwrs. Dim lot – ’mond un gêm odd ’da nhw ’ma so falle nad oedd e werth y ffwdan iddyn nhw gyment ag i ni.
O’n i’n sylwi bo nhw’n dueddol o ddod fesul cwpwl yn hytrach nag en masse fel ni – ac wrth holi un ai hynny oedd fwyaf cyffredin ymhlith ffans ffwtbol y Swistir, fe bwyntiodd e allan i fi, yn ddigon rhesymol, fod well ’da fe deithio gyda’i wraig na chyda dyn do’dd e ddim yn adnabod o’dd yn hoff iawn o volcanos. Doedd ’da fi ddim ateb i hynny mewn gwirionedd.
Ar y cyfan, doedd y Swiss ddim yn rhyw hapus iawn gyda chanlyniad y gêm gynta’, gydag un yn dweud ei fod e wedi disgwyl ein curo ni’n rhacs. Cyn ymateb, sylwes i bod e’n ddyn o gorffolaeth reit swmpus so gath e fynd heb glywed fy marn ar hynny.
Mae’r bobl leol wedi tueddu i gefnogi Cymru dw i’n credu… ac ma’r plant yn meddwl bod ein baner ni’n ofnadwy o cŵl.
Fodd bynnag, ma’ ambell un wedi rhybuddio fi y byddan nhw’n cefnogi Twrci yn yr ail gêm – a hynny 100%. Ac ma’ Arlywydd Azerbaijan, gŵr ffyrnig yr olwg o’r enw Ilham Aliyev, ar y teledu byth a hefyd yn edrych ymlaen at groesawu Erdogan, Arlywydd Twrci. So dw i’n cymryd na fydd yr ail gêm cweit mor sidêt a’r un gyntaf!
Dw i off nawr i gal ‘pide’, sydd fel pizza ac yn dipyn blasusach na ma’r enw’n awgrymu. Un i’w osgoi yw’r ‘entrail kebab’ gyda llaw, os fyddwch chi’n dod ’ma rywbryd.
Cofiwch: os ydech chi’n meddwl na ddylen i fod wedi dod, wel, erbyn i chi ddarllen hwn, mae’n bosib y byddwn ni wedi methu curo Twrci a bydda’ i adre’n wynebu deg dwrnod yn tŷ – so mai’n bosib iawn fydda’ i’n cytuno gyda chi!
Ac un peth ola, i ateb y cwestiwn pwysig ma’n ffrindie hynod ddiwylliedig i wedi bod yn gofyn i fi: ydi, mae peint yma’n tua dwy bunt.
Sag olun i chi gyd, a C’mon Cymru!