Pan o’n i’n mynd drwy fy mlynyddoedd ffurfiannol roedd y mantra na ddylid labelu pobl wedi hen gyrraedd ei fri, ac roedd honno’n wers a gafodd ei hadrodd i ‘nghenhedlaeth i, os nad y’i dysgwyd bob tro. Roedd hen arfer y degawdau cynt o labelu pobl o’r diwedd yn cael ei weld fel peth drwg ac annymunol. Wn i ddim beth aeth o’i le. O labelu pawb, i labelu neb, rydyn ni wedi troi’n ôl yn gyflym iawn at label i bawb o bobl y byd.