Mae un tymor yn sleifo lan arno fi bob blwyddyn jyst pan dw i ddim yn disgwyl e, a wicend diwetha daeth e efo llond ddwrn. Nid yr haf, ond y tymor pan mae pob person efo tatŵs yn cael y cwestiwn gan bob dieithryn yn y wlad: “Ooooh, wnaeth hwnna frifo?”

Wir i chi, os oes gyda chi datŵs gweladwy does dim modd mynd ar fws, trên neu blydi pedalo heb gael yr un cwestiynau dro ar ôl tro.

“Faint wnaeth hwnna costo? Be?? Alla i brynu laptop am hwnna!”