Mae yna lawer o gwestiynau ar hyn o bryd, ond mae un yn bwysicach na’r lleill i gyd. Dyma rai o’r gweddill…

Pam wnaeth Boris a Carrie ddewis priodi rŵan? Ai er mwyn tynnu sylw oddi wrth gyhuddiadau Dominic Cummings a helbulon yr Ysgrifennydd Iechyd?

Pam fod Boris wedi penderfynu comisiynu llong newydd £200 miliwn (nid ei gwerth, ond ei phris)? Ai am yr un rheswm? Neu ai am nad oes ganddo fo’r syniad lleia’ o le Prydain Fawr (sic) yn y byd?