Rhyw ambell sylw o ymylon yr ymgyrchu Cymreig, wrth i’r brif frwydr fethu â thanio. A John Dixon yn troi ei olygon at daflen gan Blaid Diddymu’r Cynulliad …
“Tynnodd y slogan ar y blaen… fy sylw. Mae ‘Un System Addysg, Un Gwasanaeth Iechyd, Un Llywodraeth’ yn fachog ac mae yna dinc arbennig iddo. Mae hefyd yn codi atgof o slogan a ddefnyddiwyd yn aml yn yr 1930au a’r 1940au mewn gwlad benodol ar dir mawr Ewrop. Ond, o’r hyn yr ydw i’n ei gofio am hanes, doedd canlyniadau ‘Un Bobl, Un Deyrnas, Un Arweinydd’ (neu ‘Ein Volk, Ein Reich, Ein Führer’ yn y gwereiddiol) ddim yn gadarnhaol iawn. A allan nhw fod mor anwybodus ynghylch hanes i fethu â gweld y tebygrwydd? Neu ydi hyn yn fwriadol?” (borthlas.blogspot.com)
Poeni am sylwebydd ar yr ymgyrchu yr oedd y newyddiadurwr ymchwil Marc Edwards ar wefan voice.wales, gan awgrymu bod gwrthdaro rhwng rôl Guto Harri yn arwain rhaglenni S4C ar yr etholiad a’i rôl ym myd busnes, gan gynnwys math arall o ymgyrchu …
“Mae [Guto] Harri yn gyfarwyddwr cwmni gwerth sawl miliwn sy’n cynnal busnes gyda Sawdi Arabia a’r Aifft, llywodraethau sydd wedi eu cyhuddo o ladd newyddiadurwyr a’u beirniadu am gamweddau hawliau dynol sylweddol ac, yn achos Sawdi Arabia, hyd yn oed o droseddau rhyfel posib yn Yemen. Mae hefyd yn lobïwr ac ar y tu mewn yn San Steffan a Whitehall, a’r cyfan yn ymddangos yn sefyllfa amwys i ohebydd gwleidyddol fod ynddi – yn S4C neu unrhyw sianel deledu arall.”
Roedd Guto Harri wedi ateb trwy bwysleisio ei fod yn agored am ei holl fuddiannau ac S4C wedi canmol ei broffesiynoldeb yn ei waith.
Rhagweld (neu ddeisyfu) ymgyrch ar ôl 6 Mai yr oedd Ifan Morgan Jones ar nation.cymru. Dyna’r un peth sydd angen ei newid, meddai – y drefn etholiadol ei hun…
“Efo nifer etholaethau San Steffan yng Nghymru’n cael eu gostwng o 40 i 32, mae gan Gymru bellach gyfle euraidd i dorri’r cyswllt efo ffiniau Etholiadau Cyffredinol ac ailystyried holl system etholiadau’r Senedd. Mae’n anodd dod o hyd i neb sy’n meddwl bod y system bresennol yn addas. Yr unig rwystr i gael gwared ar hynny yw… mai agwedd pleidiau sy’n gwneud yn dda dan y drefn bresennol yw ‘os yw’n gweithio i ni, gadewch iddi fod’.”
Tua’r unig sylwebydd oedd wedi penderfynu erbyn diwedd yr wythnos ddiwetha’ be fydd yn digwydd oedd Theo Davies-Lewis. Roedd y Ceidwadwyr, meddai, yn colli tir oherwydd llygredd … ond roedd hynny cyn i Boris ddod i’r Barri i lyfu hufen iâ …
“Pwy sy’n dweud na allai Llafur Cymru fynd i’r pen a chyrraedd y mwyafrif hudol sydd wedi bod y tu hwnt i’w gafael trwy gydol datganoli? Dw i ddim yn ddyn beto, ond os yw’r wythnos yma wedi dysgu unrhyw beth i ni, mae wedi ein dysgu bod ambell ennyd yn gallu troi etholiad ben i lawr… mae hynny’n golygu, wrth i’r ymgyrch gyrraedd penllanw, bod sioncrwydd yng ngham Mark Drakeford ac Adam Price; mae pobl yn fwy hoff ohonyn nhw, yn eu parchu fwy, yn ymddiried mwy ynddyn nhw o ran dyfodol Cymru nag ym Mhrif Weinidog [y Deyrnas Unedig].” (thenational.wales)