Ydyn, maen nhw wrthi eto, yn ddiweledigaeth fel arfer.

Carolyn Harris AS Llafur Dwyrain Abertawe y tro yma.

Pleidleisiwch i Lafur i gadw’r Torïaid allan, meddai. Dyna’r gân.

Hynny ydi, byddwch yn negyddol.

Gallwn fod yn well na hynny, a phleidleisio tros Blaid Cymru i gael llywodraeth go-iawn am unwaith.

Does dim byd mawr o’i le ar bolisïau Llafur, ond bobol bach mae hi’n blaid anodyne. Hynny ydi, yn ôl y Geiriadur, yn anhebyg o achosi poen na thrafferth i neb.