Mae’r haul yn dod â rhywbeth allan ynom ni, ffantasïau am fod dramor, yfed gwin yn yr ardd, agor drysau a ffenestri’r gegin a choginio rhywbeth ar ôl trip i Lidl neu Aldi i brynu cornichons neu olewydd. A dyna’r gorau y caiff y rhan fwyaf ohonom eleni eto mae’n siŵr.