Erys yn anodd dod o hyd i raglen ar Radio Cymru heb gynnwys arlwy o chat a cherddoriaeth ddiddiwedd.

Efallai mai’r rheswm am hyn yw bod y BBC yn gwrthod rhoi’r arian sydd ei angen ar Radio Cymru i ddatblygu arlwy mwy cymysg. Rydym yn dal i aros, felly, am ein rhaglenni penodol am lyfrau, ffilmiau, garddio, coginio, teithio, jazz, hanes, cerddoriaeth, comedi, gwleidyddiaeth, y celfyddydau, cwisiau, drama a llawer mwy.