Hyd yn oed rŵan, mae gen i hiraeth.

Hiraeth am arogl y lle, papur a pholish a’r glud sydd ar fflap amlenni. Y ffordd roedd y gloch fach yn canu ar y drws pan oedd yna gwsmer yn dod i mewn. Y stand cardiau post wrth y ffenest, yn dangos hirsgwariau o bob machlud, castell, glan môr a noson serog o gwmpas fan hyn. Fydda i’n trïo peidio meddwl gormod am y lle, dan yr amgylchiadau. Mi fydd meddwl am y lle yn arwain at feddwl am y bobol, a pwy oedden nhw i mi cyn hyn i gyd.