Doeddwn i ddim wedi disgwyl teimlo mor nerfus wrth wylio CNN yr wythnos ddiwethaf.

Disgwyl oeddwn i, ynghyd â miliynau o bobl eraill ar hyd a lled y byd, am benderfyniad y rheithgor yn yr achos yn erbyn Derek Chauvin am lofruddio George Floyd.

Roeddwn i, a’r miliynau eraill, wedi gweld y fideo.

Roeddwn i, a’r miliynau eraill, wedi gweld y cyn-swyddog heddlu’n gwasgu ei ben-glin yn erbyn gwddf George Floyd.

Am naw munud.