Gyda fy mhen-blwydd i’r wythnos yma, a’r tafarndai’n dechrau ailagor, fe fyddech chi’n meddwl fy mod i’n gobeithio mynd am beint ryw ben. Ac ydw, mi’r ydw i. Dw i lawr yng Nghaerdydd ar y funud, a’r her fwyaf fanno ydi dewis lle i fynd mewn difri. Ond hyd yn oed yn y brifddinas, mae’r dewisiadau’n culhau.