Mae yna rai wedi cwyno bod y Wasg a’r cyfryngau Prydeinig wedi rhoi gormod o sylw i farwolaeth ac angladd y Tywysog Philip.

Ffwlbri llwyr yw hynny wrth gwrs.

Nid ar chwarae bach roedd adlewyrchu mawredd y Dug a’i gyfraniad aruthrol i’n bywydau. Fyddai cywasgu hyn oll i lai o raglenni radio a theledu a thudalennau print wedi bod yn amhosibl.

Heb yr oriau lawer o ddarlledu a’r degau ar ddegau o erthyglau a cholofnau, fydden ni ddim callach, er enghraifft, am y canlynol…